2 Corinthians 9:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ mi a dd anvoneis y broder, rac y ein gorvoeð ni am danoch vot yn over, yn y rhan hon, val (vegis y dywedais ym) y boch parot:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond danfonais y brodyr fel na bo ein hymffrost, yr hwn sydd drosoch, yn wag yn y rhan hon; fel, megis y dywedais, y byddoch wedi ymbarottoi;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Er hynny anfonais y brodyr fel na byddo ein hymffrost yn hyn o ran yn ofer eithr y byddoch, megis y dywedais, yn barod.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mi a ddanfonais y brodyr, fel na byddo ein bost ni amdanoch chwi yn ofer yn y rhan hon; fel, megis y dywedais, y byddoch wedi ymbaratoi:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dw i'n anfon y brodyr yma atoch chi er mwyn gwneud yn siŵr y bydd ein brolio ni amdanoch ddim yn troi allan i fod yn wag, ac y byddwch yn barod, fel dw i wedi dweud y byddwch chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rwy'n anfon y brodyr er mwyn sicrhau na cheir ein hymffrost amdanoch yn ofer yn hyn o beth, ond eich bod yn barod, fel y dywedais y byddech.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr mi a ddanfonais y brodyr, fel na wneler ein hymffrost ni, yr hwn sydd ar eich rhan chwi, yn ofer yn y mater hwn, sef, fel y dywedais, y byddoch wedi ymbarottoi;