2 Corinthians 9:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
rac a’s y Macedonieit a ðawā gyd a mi, a’ch cahel chwi yn amparot, yno bot i ni nyd wy ’n dywedyt vot y chwi gael cywilyð yn yr hyderus ’orvoledd hyn veuvi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
rhag mewn modd yn y byd, os daw Macedoniaid gyda mi, ac eich cael yn ammharod, ein cywilyddier ni (fel na ddywedwn, chwi) yn yr hyder hwn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ofn sydd arnaf rhag i Facedoniaid ddyfod gyda mi a’ch cael yn amharod ac i ni, heb sôn amdanoch chwi, gael ein gwarthruddo yn hyn o hyder.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Rhag, os y Macedoniaid a ddeuant gyda mi, a'ch cael chwi yn amharod, bod i ni, (ni ddywedaf, chwi,) gael cywilydd yn y fost hyderus yma.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os bydd rhai o dalaith Macedonia gyda ni pan ddown ni i'ch gweld chi, a darganfod eich bod chi ddim yn barod, byddwn ni, heb sôn amdanoch chi, yn teimlo cywilydd go iawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Byddai'n beth chwithig pe deuai Macedoniaid gyda mi a'ch cael yn amharod, ac felly i ni heb sn amdanoch chwi gael ein cywilyddio am fod mor sicr ohonoch.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
rhag mewn un modd, os daw Macedoniaid gyda mi, a'ch cael yn ammharod, bod i ni — ni ddywedwn, chwi — gael ein cywilyddio yn yr hyder hwn.