2 Corinthians 9:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Erwyð paam mi a dybiaisvod yn angenrait annoc y brodur y ddyvot yn y blaen atoch, a’ chwplau eich bēdith rac ðarparedic, a’ bot yn parat, a’ ddyuot megis o vendith, ac nyd megis o gympel’.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, tybiais yn angenrheidiol attolygu i’r brodyr fyned o’r blaen attoch a rhag-ddarparu eich haelioni a rag-addawyd, fel y bo barod felly megis haelioni, ac nid megis crib-ddail.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Bernais felly mai anghenraid oedd annog y brodyr i’n rhagflaenu tuag atoch fel y trefnont ymlaen llaw eich rhodd haelionus a ragaddawyd ac y byddo honno, drwy fod yn barod, yn gweddu i haelioni ac nid i gybydd-dra.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Mi a dybiais gan hynny yn angenrheidiol atolygu i'r brodyr, ar iddynt ddyfod o'r blaen atoch, a rhagddarparu eich bendith chwi yr hon a fynegwyd; fel y byddo parod megis bendith, ac nid megis o gybydd-dra.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna pam o'n i'n teimlo bod rhaid anfon y brodyr atoch chi ymlaen llaw. Byddan nhw'n gallu gwneud trefniadau i dderbyn y rhodd dych wedi ei haddo. Bydd yn disgwyl amdanon ni wedyn fel rhodd sy'n dangos mor hael ydych chi, a dim fel rhywbeth wedi ei wasgu allan ohonoch chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyna pam y teimlais ei bod yn angenrheidiol gofyn i'r brodyr ddod atoch o'm blaen i, a threfnu ymlaen llaw y rhodd yr oeddech wedi ei haddo o'r blaen. Felly byddai'n barod i mi, yn rhodd haelioni, nid rhodd cybydd-dod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Mi a feddyliais gan hynny yn angenrheidiol attolygu i'r brodyr fyned o honynt o'r blaen attoch, a rhag‐ddarparu eich caredigrwydd a rag‐addawyd, fel y byddo y cyfryw yn barod, fel mater o garedigrwydd, ac nid o gybydd‐dra.