2 Corinthians 9:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Megis y damuno pop d un yn ei galō, velly may iddo roi, nyd yn athrist neu wrth yr ing: cans Duw a gar roðiawdr tirion.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gwnaed pob un, fel y rhag-ddewisodd yn ei galon, nid gyda thristwch nac o angenrheidrwydd, canys rhoddwr hyfryd a gar Duw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Rhodded pob un megis yr arfaethodd yn ei galon, nid o anfodd neu o orfod. Canys rhoddwr llawen y mae Duw yn ei garu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pob un megis y mae yn rhagarfaethu yn ei galon, felly rhodded; nid yn athrist, neu trwy gymell: canys rhoddwr llawen y mae Duw yn ei garu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dylai pob un ohonoch chi roi o'i wirfodd, dim yn anfodlon neu am fod pwysau arnoch chi. Mae Duw'n mwynhau gweld pobl sydd wrth eu boddau yn rhoi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhaid i bawb roi o wirfodd ei galon, nid o anfodd neu o raid, oherwydd rhoddwr llawen y mae Duw'n ei garu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gwneled pob un, fel y mae wedi rhag‐arfaethu yn ei galon, nid o dristwch neu o orfodaeth: canys y mae Duw yn caru rhoddwr llawen.