2 Corinthians 9:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac y mae Duw yn abl y beri ir oll rat amylhau arnoch, val y bo ywch ac oll ddigonoldeb genych ym‐pop dim, allu amylhau ym‐pop gweithret da,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac abl yw Duw i beri i bob gras fod yn dra-helaeth tuag attoch, fel ymhob peth a phob amser gyda digonoldeb genych, y byddoch yn dra-helaeth i bob gwaith da;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gall Duw beri i bob gras fod mewn helaethrwydd yn eich meddiant fel y bo gennych, ym mhob dim a phob amser, ddigon i gwrdd â phob angen a gweddill helaeth dros ben ar gyfer pob gweithred dda,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac y mae Duw yn abl i beri i bob gras fod yn helaeth tuag atoch chwi; fel y byddoch chwi ym mhob peth, bob amser, a chennych bob digonoldeb yn helaeth i bob gweithred dda:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae Duw'n gallu rhoi mwy na digon o bethau'n hael i chi, er mwyn i chi fod â popeth sydd arnoch ei angen, a bydd digonedd dros ben i chi allu gwneud gwaith da bob amser.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae Duw yn gallu rhoi pob gras i chwi yn helaeth, er mwyn i chwi, ar ben eich digon bob amser ym mhob peth, allu rhoi yn helaeth i bob gwaith da.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac y mae Duw yn alluog i beri i bob gras fod yn helaeth tuag attoch; fel y byddoch chwi, a chennych ym mhob peth bob amser bob hunan‐ddigonedd, yn ymhelaethu i bob gwaith da;