2 Corinthians 9:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
megis y mae yn scrivenedic, Ys tanodd ef ar lled a ’rhoddes ir tlodion: ei giried ef a erys yn oes oesoedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
fel yr ysgrifenwyd, “Gwasgarodd; rhoddodd i’r tlodion; Ei gyfiawnder sy’n aros yn dragywydd.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
megis yr ysgrifennwyd: Gwasgarodd, rhoddodd i’r tlodion, Erys ei gyfiawnder yn dragywydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
(Megis yr ysgrifennwyd, Efe a wasgarodd; rhoddodd i'r tlodion: ei gyfiawnder ef sydd yn aros yn dragywydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fel mae'n dweud yn yr ysgrifau sanctaidd: “Mae'r duwiol yn rhoi yn hael i'r tlodion; bydd pobl yn cofio ei haelioni bob amser.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel y mae'n ysgrifenedig: "Gwasgarodd ei roddion ymhlith y tlodion, y mae ei haelioni yn para am byth."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
fel y mae yn ysgrifenedig, Gwasgarodd, rhoddodd i'r tlodion; Ei gyfiawnder sydd yn aros yn dragywydd.