2 John 1:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Bit rrat, gyd a chwi, trugaredd, a’ thangneðyf ywrth Ddyw Tat, ac o ddy wrth yr Arglwydd Iesu Christ Vap y Tat, y gyd gwirionedd a’ chariat.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Bydd gyda ni ras, trugaredd, a thangnefedd oddiwrth Dduw Dad, ac oddiwrth Iesu Grist, Mab y Tad, mewn gwirionedd a chariad.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Bydd gyda ni ras, trugaredd, tangnefedd oddi wrth Dduw Dad, ac oddi wrth Iesu Grist, Mab y Tad, mewn gwirionedd a chariad.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Bydded gyda chwi ras, trugaredd, a thangnefedd, oddi wrth Dduw Dad, ac oddi wrth yr Arglwydd Iesu Grist, Mab y Tad, mewn gwirionedd a chariad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd haelioni rhyfeddol, a thrugaredd a heddwch dwfn Duw y Tad, a Iesu Grist ei Fab, yn aros gyda ni sy'n byw bywyd o gariad ac sy'n ffyddlon i'r gwir.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd gras, trugaredd a thangnefedd gyda ni, oddi wrth Dduw y Tad ac oddi wrth Iesu Grist, Mab y Tad, mewn gwirionedd a chariad.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gras, trugaredd, tangnefedd fyddont gyda ni oddiwrth Dduw Dâd, ac oddiwrth Iesu Grist, Mab y Tâd, mewn gwirionedd a chariad.