2 John 1:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys llawer o twyllwyr a ddaethant y mevvn ir byt, yr ei ny choffessant ddyvot Iesu Christ yn‐cnawt. Yr hwn ’sy gyfryw, twyllwr yw ac Antichrist.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys llawer o arweinwyr ar gyfeiliorn a aethant allan i’r byd, y rhai nid ydynt yn cyffesu Iesu Grist yn dyfod yn y cnawd. Hwn yw’r arweiniwr ar gyfeiliorn a’r Antigrist.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
oherwydd aeth twyllwyr lawer allan i’r byd, sydd yn gwadu dyfodiad Iesu Grist mewn cnawd. Dyma’r twyllwr a’r Anghrist.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid y mae twyllwyr lawer wedi dyfod i mewn i'r byd, y rhai nid ydynt yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd. Hwn yw'r twyllwr a'r anghrist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae llawer o rai sy'n twyllo wedi'n gadael ni a mynd allan i'r byd. Pobl ydyn nhw sy'n gwrthod credu fod gan Iesu Grist gorff dynol a'i fod yn ddyn go iawn. Twyllwyr ydyn nhw! Gelynion y Meseia!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd aeth twyllwyr lawer allan i'r byd, y rhai nad ydynt yn cyffesu bod Iesu Grist wedi dod yn y cnawd; dyma'r twyllwr a'r Anghrist.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys twyllwyr lawer a aethant allan i'r byd, y rhai nid ydynt yn cyffesu fod Iesu Grist yn dyfod yn y cnawd. Hwn yw y twyllwr a'r Anghrist.