2 John 1:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Edrychwch arnoch ychunain, na chollom y petheu, y wnaetham, eithyr val y d erbyniom lawn gyfloc.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Edrychwch attoch eich hunain na cholloch y pethau a weithredasom, eithr gwobr cyflawn y derbynioch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Cedwch olwg arnoch eich hunain rhag i chwi ddifa yr hyn a weithiasom, ond derbyn ohonoch gyflawn dâl.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Edrychwch arnoch eich hunain, fel na chollom y pethau a wnaethom, ond bod i ni dderbyn llawn wobr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwyliwch, rhag i chi gael eich dylanwadu ganddyn nhw, a cholli'r wobr dych chi wedi gweithio mor galed amdani! Daliwch ati, er mwyn gwneud yn siŵr y byddwch yn cael eich gwobr yn llawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwyliwch eich hunain, rhag ichwi golli ffrwyth ein llafur, ond derbyn eich gwobr yn gyflawn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Edrychwch atoch eich hunain na cholloch yr hyn a weithredasom, ond derbyn o honoch yn ol llawn wobr.