2 Kings 1:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Eleias a atebodd ac a ddywedodd wrth dywysog y deg a deugain, Os gŵr DUW ydwyf fi, disgynned tân o'r nefoedd, ac ysed di a'th ddeg a deugain. A thân a ddisgynnodd o'r nefoedd, ac a'i hysodd ef a'i ddeg a deugain.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Elias yn ei ateb, “Os dw i wir yn broffwyd Duw, bydd tân yn dod i lawr o'r awyr ac yn dy ladd di a dy ddynion!” A dyna'n union ddigwyddodd! Daeth tân i lawr o'r awyr a'i ladd e a'i filwyr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Elias y capten, "Os wyf fi'n u373?r Duw, doed tn o'r nef a'th ddifa di a'th hanner cant." A disgynnodd tn o'r nefoedd a'i ddifa ef a'i hanner cant.