2 Kings 1:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Oherwydd i ti anfon cenhadau i ymofyn â Baal‐sebub duw Ecron, (ai am nad oes DUW yn Israel i ymofyn â'i air?) am hynny ni ddisgynni o'r gwely y dringaist arno, eithr gan farw y byddi farw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma fe'n dweud wrth y brenin, “Mae'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Oes yna ddim Duw yn Israel i'w holi? Am dy fod ti wedi troi at Baal-sebwb, duw Ecron, fyddi di ddim yn codi o'r gwely yna, ti'n mynd i farw!’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna aeth i lawr gydag ef at y brenin a dweud wrtho, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Am iti anfon negeswyr i ymofyn Baal-sebub duw Ecron (ai am nad oes Duw yn Israel i ymofyn am ei air?), ni ddoi o'r gwely yr aethost iddo, ond byddi farw."