2 Kings 1:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Ahaseia a syrthiodd trwy ddellt o'i lofft, yr hon oedd yn Samaria, ac a glafychodd; ac efe a anfonodd genhadau, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch, ac ymofynnwch â Baal‐sebub duw Ecron, a fyddaf fi byw o'r clefyd hwn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Tua'r un adeg dyma'r brenin Ahaseia yn syrthio o ffenest llofft ei balas yn Samaria a chael ei anafu. Dyma fe'n anfon negeswyr a dweud wrthyn nhw, “Ewch i holi Baal-sebwb, duw Ecron, os bydda i yn gwella o'r anaf yma.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Syrthiodd Ahaseia o ffenestr ei lofft yn Samaria a chael ei anafu. Yna anfonodd negeswyr a dweud wrthynt, "Ewch i ymofyn Baal-sebub duw Ecron, a fyddaf yn gwella o'm hanaf."