2 Kings 1:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac angel yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth Eleias y Thesbiad, Cyfod, dos i fyny i gyfarfod â chenhadau brenin Samaria, a dywed wrthynt, Ai am nad oedd DUW yn Israel, yr ydych chwi yn myned i ymofyn â Baal‐sebub duw Ecron?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond roedd angel yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Elias o Tishbe, “Dos i gyfarfod negeswyr Brenin Samaria, a gofyn iddyn nhw, ‘Ai am fod yna ddim Duw yn Israel dych chi'n mynd i holi Baal-sebwb, duw Ecron?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedodd angel yr ARGLWYDD wrth Elias y Thesbiad, "Dos i gyfarfod negeswyr brenin Samaria, a dywed wrthynt, 'Ai am nad oes Duw yn Israel yr wyt yn anfon i ymofyn Baal-sebub duw Ecron?