2 Kings 1:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a ddywedasant wrtho, Gŵr a ddaeth i fyny i'n cyfarfod ni, ac a ddywedodd wrthym ni, Ewch, dychwelwch at y brenin a'ch anfonodd, a lleferwch wrtho, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Ai am nad oes DUW yn Israel, yr ydwyt ti yn anfon i ymofyn â Baal‐sebub duw Ecron? oherwydd hynny ni ddisgynni o'r gwely y dringaist arno, eithr gan farw y byddi farw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma nhw'n ateb, “Daeth rhyw ddyn aton ni a dweud, ‘Ewch yn ôl at y brenin sydd wedi'ch anfon chi a dweud wrtho, “Ai am fod yna ddim Duw yn Israel wyt ti'n anfon dynion i holi Baal-sebwb, duw Ecron? Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Fyddi di ddim yn codi o'r gwely yna. Ti'n mynd i farw!”’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Eu hateb oedd, "Daeth rhyw ddyn i'n cyfarfod a dweud wrthym, 'Ewch yn l at y brenin sydd wedi'ch anfon, a dweud wrtho, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Ai am nad oes Duw yn Israel yr wyt yn anfon i ymofyn Baal-sebub duw Ecron? Am hynny, ni ddoi o'r gwely yr aethost iddo, ond byddi farw".'"