2 Kings 1:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a ddywedasant wrtho, Gŵr blewog oedd efe, wedi ymwregysu hefyd â gwregys croen am ei lwynau. Dywedodd yntau, Eleias y Thesbiad oedd efe.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma nhw'n ateb, “Dyn blewog ac roedd ganddo felt ledr am ei ganol.” “Elias, y boi yna o Tishbe oedd e!”, meddai'r brenin.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd y dynion, "Dyn blewog, a gwregys o groen am ei ganol." Ac meddai yntau, "Elias y Thesbiad oedd."