2 Kings 10:15 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan aethai efe oddi yno, efe a gyfarfu â Jehonadab mab Rechab yn cyfarfod ag ef, ac a gyfarchodd well iddo, ac a ddywedodd wrtho, A yw dy galon di yn uniawn, fel y mae fy nghalon i gyda'th galon di? A dywedodd Jehonadab, Ydyw. Od ydyw, eb efe, moes dy law. Rhoddodd yntau ei law, ac efe a barodd iddo ddyfod i fyny ato i'r cerbyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth adael y fan honno dyma Jehw yn dod ar draws Jonadab fab Rechab oedd wedi bod yn chwilio amdano. Dyma Jehw'n ei gyfarch a gofyn iddo, “Wyt ti'n fy nghefnogi i fel dw i ti?” “Ydw,” meddai Jonadab. “Felly rho dy law i mi,” meddai Jehw. Dyma fe'n estyn ei law, a dyma Jehw yn ei godi ato i'w gerbyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi iddo ymadael oddi yno, gwelodd Jehonadab fab Rechab yn dod i'w gyfarfod. Cyfarchodd ef a gofyn, "A wyt ti mor ddiffuant gyda mi ag yr wyf fi gyda thi?" Atebodd Jehonadab, "Ydwyf." Yna dywedodd Jehu, "Os wyt, estyn dy law." Estynnodd ei law, a chymerodd yntau ef ato i'r cerbyd,