2 Kings 10:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn awr gelwch ataf fi holl broffwydi Baal, ei holl weision, a'i holl offeiriaid ef, na fydded un yn eisiau; canys aberth mawr sydd gennyf i Baal: pwy bynnag a fyddo yn eisiau, ni bydd efe byw. Ond Jehu a wnaeth hyn mewn cyfrwystra, fel y difethai efe addolwyr Baal.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i am gynnal aberth mawr i Baal. Felly galwch broffwydi Baal i gyd at ei gilydd, a'i addolwyr, a'i offeiriaid. Peidiwch a gadael neb allan. Bydd unrhyw un sy'n absennol yn cael ei ladd.” (Ond tric cyfrwys oedd y cwbl. Roedd Jehw yn bwriadu lladd addolwyr Baal.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly galwch ataf holl broffwydi Baal, ei holl addolwyr a'i holl offeiriaid, heb adael yr un ar l, oherwydd rwyf am gynnal aberth mawr i Baal, ac ni chaiff neb fydd yn absennol fyw." Ond gweithredu'n gyfrwys yr oedd Jehu, er mwyn difa addolwyr Baal.