2 Kings 10:23 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Jehu a aeth i mewn, a Jehonadab mab Rechab, i dŷ Baal, ac a ddywedodd wrth addolwyr Baal, Chwiliwch ac edrychwch, rhag bod yma gyda chwi neb o weision yr ARGLWYDD, ond addolwyr Baal yn unig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Jehw a Jonadab fab Rechab yn mynd i deml Baal. A dyma Jehw yn dweud wrth addolwyr Baal, “Gwnewch yn siŵr fod yna neb yma sy'n addoli'r ARGLWYDD. Dim ond addolwyr Baal sydd i fod yma.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna daeth Jehu a Jehonadab fab Rechab at deml Baal, a dweud wrth addolwyr Baal, "Chwiliwch yn fanwl rhag bod neb o addolwyr yr ARGLWYDD yna gyda chwi, dim ond addolwyr Baal yn unig."