2 Kings 10:30 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Jehu, Oherwydd i ti wneuthur yn dda, gan wneuthur yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg i, yn ôl yr hyn oll a'r a oedd yn fy nghalon i y gwnaethost i dŷ Ahab, meibion y bedwaredd genhedlaeth i ti a eisteddant ar orseddfainc Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Jehw, “Ti wedi gwneud yn dda iawn a'm plesio i, a gwneud beth roeddwn i eisiau ei weld yn digwydd i linach Ahab. Felly, bydd dy ddisgynyddion di yn teyrnasu ar wlad Israel am bedair cenhedlaeth ar dy ôl.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Jehu, "Gan dy fod wedi rhagori mewn gwneud yr hyn sy'n iawn yn fy ngolwg, a gwneud y cyfan oedd yn fy mwriad yn erbyn teulu Ahab, bydd plant i ti hyd y bedwaredd genhedlaeth yn eistedd ar orsedd Israel."