2 Kings 10:31 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond nid edrychodd Jehu am rodio yng nghyfraith ARGLWYDD DDUW Israel â'i holl galon: canys ni throdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam, yr hwn a wnaeth i Israel bechu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac eto doedd Jehw ddim yn gwbl ufudd i ddeddfau'r ARGLWYDD, Duw Israel. Wnaeth e ddim troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam wedi eu codi i wneud i Israel bechu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond ni ofalodd Jehu am rodio yng nghyfraith yr ARGLWYDD, Duw Israel, 'i holl galon; ni throdd oddi wrth bechodau Jeroboam, a barodd i Israel bechu.