2 Kings 10:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna efe a ysgrifennodd yr ail lythyr atynt hwy, gan ddywedyd, Os eiddof fi fyddwch, ac os ar fy llais i y gwrandewch, cymerwch bennau y gwŷr, meibion eich arglwydd, a deuwch ataf fi y pryd hwn yfory i Jesreel. A meibion y brenin, sef deng nyn a thrigain, oedd gyda phenaethiaid y ddinas, y rhai oedd yn eu meithrin hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Jehw yn anfon llythyr arall atyn nhw: “Os ydych chi wir ar fy ochr i, ac am fod yn ufudd i mi, yna torrwch bennau meibion Ahab i gyd, a dewch â nhw ata i i Jesreel erbyn yr adeg yma fory.” Pobl bwysig yn ninas Samaria oedd wedi bod yn magu y saith deg o feibion oedd gan y brenin Ahab.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ysgrifennodd ail lythyr atynt, gan ddweud, "Os ydych o'm plaid ac am ufuddhau imi, cymerwch bennau holl feibion eich arglwydd, a dewch ataf i Jesreel tua'r amser hwn yfory." Yr oedd meibion y brenin, deg a thrigain ohonynt, yn cael eu magu gydag uchelwyr y ddinas.