2 Kings 10:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r bore efe a aeth allan, ac a safodd, ac a ddywedodd wrth yr holl bobl, Cyfiawn ydych chwi: wele, myfi a gydfwriedais yn erbyn fy arglwydd, ac a'i lleddais ef: ond pwy a laddodd yr holl rai hyn?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna'r bore wedyn dyma Jehw yn mynd allan yno, a dweud wrth y bobl, “Dych chi ddim ar fai. Fi ydy'r un wnaeth gynllwyn yn erbyn y brenin Joram, fy meistr, a'i ladd. Ond pwy laddodd y rhain?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth yntau allan yn y bore a sefyll yno a dweud wrth yr holl bobl, "Yr ydych chwi'n bobl deg. Edrychwch, gwneuthum i gynllwyn yn erbyn f'arglwydd a'i ladd, ond pwy a laddodd y rhain i gyd?