2 Kings 11:12 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddug allan fab y brenin, ac a roddodd y goron arno ef, a'r dystiolaeth: a hwy a'i hurddasant ef yn frenin, ac a'i heneiniasant ef; curasant hefyd eu dwylo, a dywedasant, Byw fyddo'r brenin.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Jehoiada yn dod â mab y brenin allan, a rhoi'r goron ar ei ben a chopi o'r rheolau sy'n dweud sut i lywodraethu. Yna dyma nhw'n cyhoeddi mai Joas oedd y brenin, ei eneinio trwy dywallt olew ar ei ben, curo dwylo a gweiddi, “Hir oes i'r brenin!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dygwyd mab y brenin gerbron, a rhoi'r goron a'r warant iddo. Urddasant ef yn frenin, a'i eneinio, a churo dwylo a dweud, "Byw fyddo'r brenin!"