2 Kings 11:15 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Jehoiada yr offeiriad a orchmynnodd i dywysogion y cannoedd, y rhai oedd wedi eu gosod ar y llu, ac a ddywedodd wrthynt, Dygwch hi o'r tu allan i'r rhesau; a'r hwn a ddelo ar ei hôl hi, lladder ef â'r cleddyf: canys dywedasai yr offeiriad, Na ladder hi yn nhŷ yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Jehoiada'r offeiriad yn galw capteniaid y gwarchodlu, oedd yn arwain y milwyr, a dweud wrthyn nhw “Ewch â hi allan o'r deml at y rhengoedd, a lladdwch unrhyw un sydd gyda hi.” Roedd wedi dweud hyn am nad oedd hi i gael ei lladd yn y deml.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gorchmynnodd yr offeiriad Jehoiada i'r capteiniaid, swyddogion y fyddin, "Ewch hi y tu allan i gyffiniau'r tu375?, a lladdwch 'r cleddyf unrhyw un sy'n ei dilyn; ond peidier," meddai'r offeiriad, "'i lladd yn nhu375?'r ARGLWYDD."