2 Kings 11:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond Joseba merch y brenin Joram, chwaer Ahaseia, a gymerth Joas mab Ahaseia, ac a'i lladrataodd ef o fysg meibion y brenin y rhai a laddwyd: a hwy a'i cuddiasant ef a'i famaeth yn ystafell y gwelyau, rhag Athaleia, fel na laddwyd ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond roedd gan Ahaseia chwaer, Jehosheba, merch i'r brenin Jehoram. Dyma hi'n cymryd Joas, mab Ahaseia, a'i sleifio i ffwrdd oddi wrth aelodau eraill y teulu brenhinol cyn iddyn nhw gael eu lladd. A dyma fe'n cael ei guddio gyda'i nyrs yn un o ystafelloedd gwely'r offeiriaid yn y deml. Felly wnaeth Athaleia ddim dod o hyd iddo, a chafodd e mo'i ladd ganddi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond cymerwyd Joas fab Ahaseia gan Jehoseba, merch y Brenin Joram a chwaer Ahaseia, a'i ddwyn yn ddirgel o blith plant y brenin, a oedd i'w lladd. Rhoed ef a'i famaeth mewn ystafell wely, a'i guddio rhag Athaleia, ac ni laddwyd ef.