2 Kings 12:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna Hasael brenin Syria a aeth i fyny, ac a ymladdodd yn erbyn Gath, ac a'i henillodd hi: a Hasael a osododd ei wyneb i fyned i fyny yn erbyn Jerwsalem.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bryd hynny dyma Hasael, brenin Syria, yn ymosod ar dre Gath a'i choncro. Yna dyma fe'n penderfynu ymosod ar Jerwsalem.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr adeg honno aeth Hasael brenin Syria i ryfel yn erbyn Gath, a'i chipio, ac yna rhoi ei fryd ar ymosod ar Jerwsalem.