2 Kings 12:18 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Joas brenin Jwda a gymerth yr holl bethau cysegredig a gysegrasai Jehosaffat, a Jehoram, ac Ahaseia, ei dadau ef, brenhinoedd Jwda, a'i gysegredig bethau ef ei hun, a'r holl aur a gafwyd yn nhrysorau tŷ yr ARGLWYDD, a thŷ y brenin, ac a'u hanfonodd at Hasael brenin Syria, ac efe a ymadawodd oddi wrth Jerwsalem.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Joas, brenin Jwda, yn talu arian mawr iddo beidio ymosod. Cymerodd Joas y cwbl roedd e a'r brenhinoedd o'i flaen (Jehosaffat, Jehoram ac Ahaseia) wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD. Cymerodd yr aur oedd yn stordai'r deml a'r palas hefyd, ac anfon y cwbl i Hasael brenin Syria. Felly dyma Hasael a'i fyddin yn troi'n ôl a peidio ymosod ar Jerwsalem.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A chymerodd Jehoas brenin Jwda yr holl roddion a gysegrodd ei ragflaenwyr Jehosaffat, Jehoram ac Ahaseia, brenhinoedd Jwda, a hefyd ei roddion ei hun a'r holl aur oedd ar gael yn nhrysorfa tu375?'r ARGLWYDD a'r palas, a'u hanfon at Hasael brenin Syria; troes yntau yn l oddi wrth Jerwsalem.