2 Kings 12:20 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'i weision ef a gyfodasant, ac a gydfwriadasant fradwriaeth; ac a laddasant Joas yn nhŷ Milo, wrth ddyfod i waered i Sila.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
[20-21] Dyma Iosafad fab Shimeath a Iehosafad fab Shomer, swyddogion Joas, yn cynllwynio yn ei erbyn a'i ladd yn Beth-milo (sydd ar y ffordd i lawr i Sila). Cafodd ei gladdu gyda'i hynafiaid yn Ninas Dafydd, a dyma'i fab, Amaseia, yn dod yn frenin yn ei le.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaeth ei weision gynllwyn yn erbyn Joas a'i ladd yn Beth-milo wrth riw Sila.