2 Kings 12:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr Jehoiada yr offeiriad a gymerth gist, ac a dyllodd dwll yn ei chaead, ac a'i gosododd hi o'r tu deau i'r allor, ffordd y delai un i mewn i dŷ yr ARGLWYDD: a'r offeiriaid, y rhai oedd yn cadw y drws, a roddent yno yr holl arian a ddygid i mewn i dŷ yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Jehoiada'r offeiriad yn cymryd cist a gwneud twll yn y caead. Yna dyma fe'n rhoi'r gist ar yr ochr dde i'r allor, wrth y fynedfa i'r deml. Roedd y porthorion yn rhoi'r holl arian roedd pobl yn ei gyfrannu yn y gist.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A chymerodd yr offeiriad Jehoiada gist, a gwneud twll yn ei chaead a'i gosod yn ymyl yr allor, ar y dde wrth fynd i mewn i du375?'r ARGLWYDD; ac yno y rhoddai'r offeiriaid oedd yn gwylio'r drws yr holl arian a ddygid i du375?'r ARGLWYDD.