2 Kings 13:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr oedd Eliseus yn glaf o'r clefyd y bu efe farw ohono: a Joas brenin Israel a ddaeth i waered ato ef, ac a wylodd ar ei wyneb ef, ac a ddywedodd, O fy nhad, fy nhad, cerbyd Israel, a'i farchogion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd Eliseus yn sâl ac ar ei wely angau aeth Jehoas, brenin Israel, i'w weld. Dyma Jehoas yn torri i lawr i wylo o'i flaen a dweud, “Fy nhad, fy nhad! Ti ydy arfau a byddin Israel!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan oedd Eliseus yn glaf o'i glefyd olaf, daeth Joas brenin Israel i ymweld ag ef, ac wylo yn ei u373?ydd a dweud, "Fy nhad, fy nhad, cerbydau a marchogion Israel."