2 Kings 13:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd, Agor y ffenestr tua'r dwyrain. Yntau a'i hagorodd. Yna y dywedodd Eliseus, Saetha. Ac efe a saethodd. Dywedodd yntau, Saeth ymwared yr ARGLWYDD, a saeth ymwared rhag Syria; a thi a drewi y Syriaid yn Affec, nes eu difa hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn dyma fe'n dweud wrtho, “Agor y ffenest sy'n wynebu'r dwyrain.” A dyma fe'n agor y ffenest. Yna dyma Eliseus yn dweud, “Saetha!” A dyma fe'n saethu. “Mae'r saeth yna'n symbol o fuddugoliaeth yr ARGLWYDD. Saeth buddugoliaeth dros Syria. Byddi di'n ymosod ar Syria yn Affec ac yn ei difa nhw'n llwyr.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd, "Agor y ffenestr tua'r dwyrain." Agorodd hi, a dywed-u373?odd Eliseus, "Saetha." A phan oedd yn saethu, dywedodd, "Saeth buddugoliaeth i'r ARGLWYDD, saeth buddugoliaeth dros Syria! Byddi'n taro'r Syriaid yn Affec ac yn eu difa."