2 Kings 13:21 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan oeddynt hwy yn claddu gŵr, wele, hwy a ganfuant dorf, ac a fwriasant y gŵr i feddrod Eliseus. A phan aeth y gŵr i lawr a chyffwrdd ag esgyrn Eliseus, efe a ddadebrodd, ac a gyfododd ar ei draed.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Un tro pan oedd rhyw ddyn yn cael ei gladdu, dyma'r bobl oedd yn ei gladdu yn gweld un o'r criwiau yna o Moab yn dod. Felly dyma nhw'n taflu corff y dyn marw i mewn i fedd Eliseus a dianc. Pan gyffyrddodd y corff esgyrn Eliseus, daeth yn ôl yn fyw a chodi ar ei draed.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Un tro, yn ystod angladd rhyw ddyn, gwelwyd mintai'n dod, a bwriwyd y dyn i fedd Eliseus; ond cyn gynted ag y cyffyrddodd ag esgyrn Eliseus, daeth yn fyw a chodi ar ei draed.