2 Kings 13:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A digofaint yr ARGLWYDD a lidiodd yn erbyn Israel; ac efe a'u rhoddodd hwynt yn llaw Hasael brenin Syria, ac yn llaw Benhadad mab Hasael, eu holl ddyddiau hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda phobl Israel! Dyma fe'n gadael i Hasael, brenin Syria a'i fab Ben-hadad, eu rheoli nhw am flynyddoedd lawer.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Llidiodd yr ARGLWYDD wrth Israel, a rhoddodd hwy yn llaw Hasael brenin Syria a Ben-hadad fab Hasael am gyfnod.