2 Kings 14:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan daro y trewaist yr Edomiaid, am hynny dy galon a'th falchïodd: ymffrostia, ac eistedd yn dy dŷ: canys i ba beth yr ymyrri i'th ddrwg dy hun, fel y syrthit ti, a Jwda gyda thi?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Amaseia, mae'n wir dy fod ti wedi gorchfygu Edom, ond mae wedi mynd i dy ben di! Mwynha dy lwyddiant ac aros adre. Wyt ti'n edrych am drwbwl? Dw i'n dy rybuddio di, byddi di a dy deyrnas yn syrthio gyda'ch gilydd!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gorchfygaist Edom ac aethost yn ffroenuchel. Mwynha d'ogoniant, ac aros gartref; pam y codi helynt, ac yna cwympo a thynnu Jwda i lawr i'th ganlyn?"