2 Kings 14:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond ni wrandawai Amaseia. Am hynny Joas brenin Israel a aeth i fyny, a hwy a welsant wynebau ei gilydd, efe ac Amaseia brenin Jwda, yn Beth‐semes, yr hon sydd yn Jwda.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond doedd Amaseia ddim am wrando. Felly dyma Jehoas, brenin Israel, yn mynd i ryfel yn ei erbyn. Dyma nhw'n dod wyneb yn wyneb yn Beth-shemesh ar dir Jwda.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond ni fynnai Amaseia wrando; felly daeth Joas brenin Israel ac Amaseia brenin Jwda wyneb yn wyneb ger Beth-semes yn Jwda.