2 Kings 14:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Joas brenin Israel a ddaliodd Amaseia brenin Jwda, mab Joas, mab Ahaseia, yn Beth‐semes, ac a ddaeth i Jerwsalem, ac a dorrodd i lawr fur Jerwsalem, o borth Effraim hyd borth y gongl, bedwar can cufydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Jehoas, brenin Israel, wedi dal Amaseia, brenin Jwda, yn Beth-shemesh. A dyma fe'n mynd ymlaen i Jerwsalem a chwalu waliau'r ddinas o Giât Effraim at Giât y Gornel, pellter o bron i ddau can metr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi i Joas brenin Israel ddal Amaseia fab Jehoas, fab Ahaseia, brenin Jwda, yn Beth-semes, aeth yn ei flaen i Jerwsalem a thorri i lawr fur Jerwsalem o borth Effraim hyd borth y gongl, sef pedwar can cufydd.