2 Kings 14:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond ni laddodd efe feibion y lleiddiaid; fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses, yn yr hon y gorchmynasai yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Na ladder y tadau dros y meibion, ac na ladder y meibion dros y tadau; ond lladder pob un am ei bechod ei hun.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond wnaeth e ddim lladd plant y llofruddion, am fod sgrôl Cyfraith Moses yn dweud fod yr ARGLWYDD wedi gorchymyn: “Ddylai rhieni ddim cael eu lladd am droseddau eu plant, na'r plant am droseddau eu rhieni. Dim ond y troseddwr ei hun ddylai farw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond ni roddodd blant y lleiddiaid i farwolaeth, yn unol 'r hyn sy'n ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses, lle mae'r ARGLWYDD yn gorchymyn, "Na rodder rhieni i farwolaeth o achos eu plant, na phlant o achos eu rhieni; am ei bechod ei hun y rhoddir un i farwolaeth."