2 Kings 15:16 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna Menahem a drawodd Tiffsa, a'r rhai oll oedd ynddi, a'i therfynau, o Tirsa: oherwydd nad agorasant iddo ef, am hynny y trawodd efe hi; a'i holl wragedd beichiogion a rwygodd efe.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan ddaeth Menachem o Tirtsa aeth i ymosod ar dre Tiffsa am i'r bobl yno wrthod ei dderbyn. Lladdodd bawb oedd yn byw yno ac yn yr ardal o gwmpas, a hyd yn oed rhwygo'n agored yr holl wragedd beichiog oedd yno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyna'r pryd yr ymosododd Menahem o Tirsa ar Tiffsa a'i thrigolion a'i thiriogaeth, am nad ildiodd iddo; rheibiodd hi a rhwygo ei holl wragedd beichiog.