2 Kings 15:20 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Menahem a gododd yr arian ar Israel, sef ar yr holl rai cedyrn o allu, ar bob un ddeg sicl a deugain o arian, i'w rhoddi i frenin Asyria; felly brenin Asyria a ddychwelodd, ac nid arhosodd yno yn y wlad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Menachem wedi codi'r arian drwy drethu pobl gyfoethog Israel. Cododd dreth o dros bum cant gram o arian ar bob un ohonyn nhw, a'i dalu i frenin Asyria. Felly dyma fyddin Tiglath-Pileser yn troi'n ôl; wnaethon nhw ddim aros yn y wlad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cododd Menahem yr arian oddi ar fonedd Israel er mwyn rhoi i frenin Asyria yn l hanner can sicl y pen.