2 Kings 15:25 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Pheca mab Remaleia ei dywysog ef a fradfwriadodd yn ei erbyn ef, ac a'i trawodd ef yn Samaria, yn llys y brenin, gydag Argob, ac Arie, a chydag ef ddeng ŵr a deugain o feibion y Gileadiaid: ac efe a'i lladdodd ef, ac a deyrnasodd yn ei le ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'i is-gapten, Pecach fab Remaleia, yn cynllwyn yn ei erbyn. Dyma hwnnw, gyda pum deg o ddynion o Gilead, yn torri i mewn i gaer y palas a lladd y brenin Pecacheia, Argob ac Arie. Yna dyma Pecach yn dod yn frenin.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cynllwyniodd ei is-gapten Pecach fab Remaleia yn ei erbyn, a chyda hanner cant o wu375?r o Gilead ymosododd arno yn Samaria, yng nghaer y palas. Lladdodd ef, a theyrnasu yn ei le.