2 Kings 15:30 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Hosea mab Ela a fradfwriadodd fradwriaeth yn erbyn Peca mab Remaleia, ac a'i trawodd ef, ac a'i lladdodd, ac a deyrnasodd yn ei le ef, yn yr ugeinfed flwyddyn i Jotham mab Usseia.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Hoshea fab Ela yn cynllwyn yn erbyn Pecach, ei ladd, a dod yn frenin yn ei le. Digwyddodd hyn pan oedd Jotham fab Wseia, wedi bod yn frenin am ddau ddeg o flynyddoedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaeth Hosea fab Ela gynllwyn yn erbyn Pecach fab Remaleia, ac ymosod arno a'i ladd, a dod yn frenin yn ei le yn yr ugeinfed flwyddyn i Jotham fab Usseia.