2 Kings 16:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r brenin Ahas a orchmynnodd i Ureia yr offeiriad gan ddywedyd, Llosg ar yr allor fawr y poethoffrwm boreol, a'r bwyd‐offrwm prynhawnol, poethoffrwm y brenin hefyd, a'i fwyd‐offrwm ef, a phoethoffrwm holl bobl y wlad, a'u bwyd‐offrwm hwynt, a'u diodydd‐offrwm hwynt; a holl waed y poethoffrwm, a holl waed yr aberth, a daenelli di arni hi: a bydded yr allor bres i mi i ymofyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma'r brenin Ahas yn dweud wrth Wreia yr offeiriad: “Yr allor fawr sydd i gael ei defnyddio o hyn ymlaen. Defnyddiwch hi i losgi offrwm y bore arni, a'r offrwm o rawn gyda'r nos, yr offrymau brenhinol i gyd, a'r offrymau dros y bobl gyffredin — offrymau i'w llosgi, offrymau o rawn ac offrymau o ddiod. Arni hi hefyd dych chi i sblasio gwaed yr holl anifeiliaid sy'n cael eu haberthu. Bydd yr allor bres ar gyfer fy nefnydd personol i.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A gorchmynnodd y Brenin Ahas i'r offeiriad Ureia, "Ar yr allor fawr yr wyt i losgi'r poethoffrwm boreol a'r bwydoffrwm hwyrol, a hefyd poethoffrwm a bwydoffrwm y brenin, a phoethoffrwm holl bobl y wlad ynghyd 'u bwydoffrwm a'u diodoffrymau. Ac yn ei herbyn hi y lluchi holl waed y poethoffrymau a'r aberthau. Ond ar fy nghyfer i y bydd yr allor bres i ymofyn wrthi."