2 Kings 16:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Mab ugain mlwydd oedd Ahas pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem, ac ni wnaeth efe yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD ei DDUW, fel Dafydd ei dad:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Ahas yn ddau ddeg mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg chwech o flynyddoedd. Ond wnaeth e ddim plesio'r ARGLWYDD ei Dduw fel roedd y Brenin Dafydd wedi gwneud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ugain oed oedd Ahas pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am un mlynedd ar bymtheg yn Jerwsalem; ond ni wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD ei Dduw fel y gwnaeth ei dad Dafydd.