2 Kings 16:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn yr amser hwnnw Resin brenin Syria a ddug drachefn Elath at Syria, ac a yrrodd yr Iddewon o Elath: a'r Syriaid a ddaethant i Elath, ac a breswyliasant yno hyd y dydd hwn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
(Tua'r adeg yna hefyd llwyddodd Resin, brenin Syria, i ennill dinas Elat yn ôl i Syria. Gyrrodd bobl Jwda allan o Elat, a daeth pobl o Edom yn ôl i fyw yno. Maen nhw'n dal yno hyd heddiw.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y pryd hwnnw enillwyd Elath yn l i Edom gan frenin Edom, a gyrrodd ef yr Iddewon allan o Elath. Daeth yr Edomiaid yn l i Elath, ac y maent yn byw yno hyd heddiw.