2 Kings 17:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Er i'r ARGLWYDD dystiolaethu yn erbyn Israel, ac yn erbyn Jwda, trwy law yr holl broffwydi, a phob gweledydd, gan ddywedyd, Dychwelwch o'ch ffyrdd drygionus, a chedwch fy ngorchmynion, a'm deddfau, yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnais i'ch tadau, a'r hon a anfonais atoch trwy law fy ngweision y proffwydi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yr ARGLWYDD wedi anfon proffwydi a'r rhai oedd yn cael gweledigaethau i rybuddio Israel a Jwda. Roedd wedi dweud, trwyddyn nhw, “Rhaid i chi droi cefn ar y drwg a chadw fy ngorchmynion i a'r rheolau sy'n y Gyfraith rois i i'ch hynafiaid chi. Dw i wedi anfon y proffwydi i'ch atgoffa chi ohonyn nhw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio Israel a Jwda drwy bob proffwyd a gweledydd, a dweud, "Trowch oddi wrth eich gweithredoedd drwg, a chadwch fy ngorchmynion a'm deddfau yn l yr holl gyfraith a orchmynnais i'ch hynafiaid ac a hysbysais i chwi drwy fy ngweision y proffwydi."