2 Kings 17:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a ddirmygasant ei ddeddfau ef, a'i gyfamod yr hwn a wnaethai efe â'u tadau hwynt, a'i dystiolaethau ef y rhai a dystiolaethodd efe i'w herbyn; a rhodiasant ar ôl oferedd, ac a aethant yn ofer: aethant hefyd ar ôl y cenhedloedd y rhai oedd o'u hamgylch, am y rhai y gorchmynasai yr ARGLWYDD iddynt, na wnelent fel hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedden nhw wedi gwrthod ei reolau a'r ymrwymiad roedd wedi ei wneud gyda'u hynafiaid. Wnaethon nhw ddim gwrando ar ei rybuddion, ond mynd ar ôl eilunod diwerth. Roedden nhw'n gwneud eu hunain yn ddiwerth, ac yn dynwared y gwledydd o'u cwmpas, er fod yr ARGLWYDD wedi dweud wrthyn nhw am beidio gwneud hynny.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oeddent yn gwrthod ei ddeddfau a'r cyfamod a wnaeth 'u hynafiaid a'r rhybuddion a roddodd iddynt, yn dilyn oferedd ac yn troi'n ofer, yr un fath 'r cenhedloedd oedd o'u cwmpas, er i'r ARGLWYDD orchymyn iddynt beidio gwneud felly.