2 Kings 17:16 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a adawsant holl orchmynion yr ARGLWYDD eu DUW, ac a wnaethant iddynt ddelwau tawdd, nid amgen dau lo: gwnaethant hefyd lwyn, ac ymgrymasant i holl lu y nefoedd, a gwasanaethasant Baal.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedden nhw wedi anwybyddu gorchmynion yr ARGLWYDD eu Duw. Roedden nhw wedi gwneud delwau metel o ddau darw ifanc, a codi polyn i'r dduwies Ashera. Roedden nhw'n plygu i'r haul a'r lleuad a'r sêr, ac yn addoli Baal.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oeddent yn diystyru holl orchmynion yr ARGLWYDD eu Duw, ac wedi gwneud iddynt eu hunain ddwy ddelw o lo, a delw o Asera. Yr oeddent yn ymgrymu i holl lu'r nef, yn addoli Baal, ac yn peri i'w meibion a'u merched fynd trwy dn.