2 Kings 17:21 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys efe a rwygodd Israel oddi wrth dŷ Dafydd; a hwy a wnaethant Jeroboam mab Nebat yn frenin: a Jeroboam a yrrodd Israel oddi ar ôl yr ARGLWYDD, ac a wnaeth iddynt bechu pechod mawr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan wnaeth Duw rwygo Israel oddi wrth linach Dafydd dyma nhw'n gwneud Jeroboam fab Nebat yn frenin. A dyma fe'n arwain pobl Israel i ffwrdd oddi wrth yr ARGLWYDD a gwneud iddyn nhw bechu'n ofnadwy.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan dorrodd Israel i ffwrdd oddi wrth linach Dafydd, gwnaethant Jeroboam fab Nebat yn frenin, a throdd yntau hwy oddi wrth yr ARGLWYDD a pheri iddynt bechu'n fawr.