2 Kings 17:29 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eto pob cenedl oedd yn gwneuthur eu duwiau eu hun, ac yn eu gosod yn nhai yr uchelfeydd a wnaethai y Samariaid, pob cenedl yn eu dinasoedd yr oeddynt yn preswylio ynddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac eto roedd y gwahanol bobloedd yno yn gwneud delwau o'u duwiau eu hunain hefyd, ac yn eu gosod nhw yn yr temlau lle roedd pobl Samaria wedi codi allorau lleol. Roedd pob un o'r gwahanol grwpiau o bobl yn gwneud hyn yn y trefi lle roedden nhw'n byw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd pob cenedl yn gwneud ei duw ei hun ac yn ei osod yng nghysegr yr uchelfeydd a wnaeth y Samariaid, pob cenedl yn y dref lle'r oedd yn byw.