2 Kings 17:32 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly hwy a ofnasant yr ARGLWYDD, ac a wnaethant iddynt rai o'u gwehilion yn offeiriaid yr uchelfeydd, y rhai a wnaethant aberthau iddynt yn nhai yr uchelfeydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond roedden nhw'n addoli'r ARGLWYDD ar yr un pryd! Ac roedden nhw'n dewis pob math o bobl i fod yn offeiriad ac i arwain y defodau wrth yr allorau lleol yn y canolfannau hynny.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oeddent yn cydnabod yr ARGLWYDD, ac ar yr un pryd yn penodi o'u mysg rai o bob math yn offeiriaid, i weithredu drostynt yng nghysegrau'r uchelfeydd.